Dathlu Calan Mai

Daethon ni at ein gilydd unwaith eto ar yr wythfed ar hugain o Ebrill, gyda grwp All Year Round, i ddathlu Calan Mai.

Yn cyntaf, ron ni’n gwneud offerynau mas o ddefnyddiau ail-gylchu. Roedd ffliwtiau yn cael eu gwneud o boteli plastig, “shakers” o hen ffa a bocys plastig, a gitarau o ddolen elastig. Ar y un pryd, roedd rhai o blant yn addurno cacennau bach gyda blodau sy’n gallu cael eu bwyta.

Y Polyn Mai ar ol y dawnsio

Y Polyn Mai ar ol y dawnsio

Wedyn, roedd hi’n amser i ganu a dawnsio! Gyda’r plant yn chwarae eu hofferynnau, cerddon ni o gwmpas y sgubor goch i gyrraedd at y Polyn Mai. Tra roedd yr oedolion yn canu yr hen gân o’r unfed ar pymptheg canrif “Summer is a coming in” ac yn Gymraeg “Y Cadi Ha”, dawnsiodd y plant o gwmpas y polyn. Gwnaethon nhw batrymau pert o gwmpas y polyn gyda y rhubanau lliwgar.

Cacenau bach gyda blodau

Cacenau bach gyda blodau

Gorffennon ni y dydd wrth fwyta y cacenau – blasus!

Bydd ein dathliad nesa ar yr unfed ar hugain o Fis Medi, ar gyfer Canol Haf. Croeso Cynnes i Bawb!

This entry was posted in All Year Round, Cymraeg and tagged , , . Bookmark the permalink.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *